Denplan
Mae Denplan yn fath o gynllun taliadau misol am driniaeth ddeintyddol.Mae’n sicrhau y cewch chi driniaeth ddeintyddol ataliol yn rheolaidd a chyfraniad yswiriant tuag at gost triniaeth canser y geg a thriniaeth ddeintyddol yn achos damweiniau neu driniaeth frys.
Bydd eich categori Denplan Care, ac yn sgil hynny, y taliad misol, yn seiliedig ar asesiad o’r driniaeth ddeintyddol rydych chi wedi’i chael yn barod, cyflwr eich deintgig ac iechyd cyffredinol eich ceg.
Mae dau fath o yswiriant ar gael gan Denplan. “Denplan Care” sydd yn yswiriant cynhwysfawr a “Denplan Essential” sydd yn fwy cyffredinol.
Denplan Care
Triniaeth ddeintyddol reolaidd ac ataliol
- Archwiliadau
- Ffotograffiaeth pelydr X
- Llenwadau amalgam angenrheidiol
- Triniaeth hylendid (yn cynnwys Glanhau a Sgleinio)
- Cyngor a therapi deintyddol ataliol
- Unrhyw dynnu dannedd gorfodol
- Corunau, Pontydd, Dannedd Dodi, Llenwadau Mewnosod (heb gynnwys ffioedd y labordy)
Sicrwydd yswiriant byd-eang ar gyfer anafiadau deintyddol ac achosion brys
- Sicrwydd yswiriant gwerth hyd at £10,000 ar gyfer anafiadau deintyddol
- Triniaeth ddeintyddol frys dramor hyd at £900
Buddion Eraill
- Taliad ariannol i ysbytai gwerth £62 y noson
- Sicrwydd yswiriant ar gyfer canser y geg gwerth hyd at £12,000