Deintyddiaeth Gosmetig
Mae gan Glinig Deintyddol y Gadeirlan enw da am y safonau uchaf mewn deintyddiaeth adferol a chosmetig. Cyfeirio y mae’r term deintyddiaeth gosmetig at driniaethau fel argaenau, gwynnu dannedd, dileu staeniau, amlinellu deintgig ac amlinellu dannedd. Dros y blynyddoedd diwethaf, ymestynnwyd y derminoleg at lenwadau gwyn, mewnblannu deintyddol, triniaeth orthodontic ac yn olaf, trawsnewid gwên sy’n golygu detholiad o’r triniaethau uchod.
Yr ydym yn llawn sylweddoli mor bwysig yw gwên iach a deniadol. Rydym yn deall sut y gall golwg eich dannedd a chig y dannedd gael cryn effaith ar y ffordd rydych yn teimlo amdanoch eich hun, felly mae’n bleser gennym gynnig i chi ddewis eang o driniaethau deintyddiaeth gosmetig gan ddefnyddio’r dechnoleg a’r deunyddiau deintyddol diweddaraf.
Mae modd dadansoddi lluniad perffaith eich ceg yn wyddonol. Er bod dehongliad pob unigolyn ynghylch beth sy’n gwneud y wên berffaith yn wahanol, daw’r sylfaen i’n triniaethau a’n cyngor o rai o’r ffactorau cyfranogol isod:
- Dylai’r llinell ganolog fod yn ganolog i’ch wyneb
- Dylai’r dannedd fod wedi onglu’n gywir i bwynt islaw eich gên
- Mae patrwm gorau ar gyfer uchder a maint pob dant
- Dylai’r pwyntiau cyswllt a llinell y deintgig adlewyrchu llinell y gwefusau a’r wên
- Dylai’r dannedd fod o’r un lliw
Fe wnawn wrando’n llawn cydymdeimlad ar eich pryderon, a’ch cynghori am y ffordd orau i gael y canlyniad rydych chi eisiau.