Arwyneb porslen tenau yw argaenau deintyddol sydd yn cael eu bondio ar eich dannedd blaen uchaf neu isaf. Er mai gwella golwg eich dannedd yw eu prif fwriad, byddant hefyd yn help i atal mwy o ddifrod. Nid oes angen fawr ddim paratoi ar strwythur naturiol eich dannedd cyn bondio argaenau deintyddol. Mae modd eu defnyddio pan fo’r dannedd wedi torri, wedi colli eu lliw, yn anwastad neu’n llenwi’r geg yn ormodol.

 

Argaenau Deintyddol Eithriadol o Denau

lumineers dental veneersTPrif fantais argaenau deintyddol yw nad oes angen paratoi fawr ddim ar y dannedd. O’r herwydd, mae’n aml yn bosib gwrthdroi’r broses, gan fod strwythur naturiol y dannedd yn cael ei adael yn gyfan. Mae llawer brand a deunydd ar gael mewn deintyddiaeth i’n galluogi i gynnig dewis o argaenau deintyddol eithriadol o denau i chi.

Dental Veneers

Dental Veneers