Atal Chwyrnu
Mae nifer o ddyfeisiadau unswydd i atal chwyrnu ar gael yn ein clinig fydd yn addas i’ch anghenion a’ch cyflwr arbennig chi. Mae’r rhain yn fwy effeithiol o lawer na’r cyfarpar safonol sydd ar gael ar y farchnad. Nid yw’r driniaeth hon yn ymyrrol o gwbl: does dim angen pigiadau na pharatoi arwyneb y dannedd. Mae’n gyfforddus ac yn hawdd ei wisgo, ac nid yw’n cymryd fawr ddim amser i arfer ei wisgo gyda’r nos.
Fe wnawn gynhyrchu dyfais unswydd sydd wedi ei dylunio i ffitio dros eich dannedd cefn isaf sy’n teimlo’n debyg i ddyfais gwarchod y geg. Bydd yn sefydlogi eich tafod ac yn atal meinwe meddal y gwddf rhag disgyn a rhwystro’r llwybr anadlu: hyn sydd yn achosi chwyrnu.
Mae dyfeisiadau atal chwyrnu yn cael eu defnyddio’n gyffredin ac y mae iddynt lawer o fanteision all gael effaith cadarnhaol cyffredinol ar eich bywyd a’ch lles:
- Gwella diffyg cwsg a achosir gan chwyrnu
- Llai o ben tost oherwydd diffyg cwsg
- Cof gwell a gwell gallu i ganolbwyntio
- Byddwch yn llai blin ac yn fwy amyneddgar