Codi’r Wyneb heb Lawdriniaeth
Yng Nghlinig Deintyddol y Gadeirlan rydym yn cynnig codi’r wyneb heb lawdriniaeth i ymdrin ag arwyddion heneiddio yn yr wyneb mewn ffordd naturiol a heb fod yn ymyrrol. Fe wnawn hyn trwy addasu dyfais megis Oralift sydd yn gwahanu’r dannedd o fwy o lawer na’r ffordd maent yn gorwedd fel arfer. Mae hyn yn cynyddu gweithgarwch protin, ac yn codi a chynnal naws y cyhyrau.
Dyfais yw Oralift a gynlluniwyd i ffitio dros eich dannedd cefn isaf ac sy’n edrych yn debyg i warchodydd bach y geg. Pan gaiff ei wisgo, mae hyn yn symbylu cyhyrau eich ceg sydd yn help i wrthdroi ‘triongl heneiddio’ rhan isaf yr wyneb.
Ymysg manteision codi’r wyneb heb lawdriniaeth fel Oralift mae:
- Llai o grychau o gwmpas y geg a’r wyneb
- Gwefusau llawnach
- Esgyrn y bochau’n amlycach
- Cyhyrau’r wyneb yn dynnach a chryfach
- Cryfhau a thynhau llinell yr ên a’r gwddf