Gwynnu’r Dannedd
Gall gwên loywach wneud i chi edrych yn fwy hyderus ac ifanc. Gallwch fanteisio ar y technegau diweddaraf mewn gwynnu’r dannedd yng Nghlinig Deintyddol y Gadeirlan. Mae gwynnu’r dannedd yn ddiogel ac yn effeithiol, ac mae gennym ddewis o ddulliau hwylus i’n cleifion.
Mae gwynnu’r dannedd trwy Phillips Zoom! Yn ffordd gyflym ac effeithiol i wynnu eich dannedd yn ddramatig, ond dan reolaeth. System driniaeth o’r gadair, a roir ar waith trwy oleuni ydyw, sy’n cael ei rhoi yn y clinig ac fe welwch y canlyniadau yn syth. Mewn llai na 2 awr, gall eich dannedd fod hyd at 8 gwaith yn loywach, a bydd gennych y wên wen y buoch yn breuddwydio amdani.
Fel rhan o driniaeth Philips Zoom! O’r gadair, fe gewch offer a jeli gwynnu ychwanegol i’w defnyddio gartref. Bydd hyn o gymorth i chi gynnal canlyniadau eich triniaeth gwynnu’r dannedd.
Teeth Whitening Philips Zoom!
Teeth Whitening Philips Zoom!
Offer Gwynnu’r Dannedd Gartref
Mae ein hoffer gwynnu’r dannedd gartref wedi ei gynllunio i’w defnyddio’n hwylus gartref. Mae’r hambyrddau gwynnu unswydd yn cael eu gwneud yn ein clinig, lle byddwn yn dangos sut i ddefnyddio’r offer yn gywir a sut i roi’r jeli gwynnu. Byddwch yn gwisgo’r hambyrddau gwynnu am 2-8 awr ar y pryd, ac o’u defnyddio yn rheolaidd, fe gewch eich gwên wynnach a disgleiriach.