Mae ein therapydd hylendid wedi ei hyfforddi’n arbennig i atal clefydau yn y deintgig a thyllau mewn dannedd. Ein nod yw eich helpu chi i gadw eich dannedd a’ch ceg mor iach ag sydd modd. Byddwn yn archwilio ac yn siartio eich dannedd a’ch deintgig yn electronig, gan sylwi’n arbennig ar y canlynol: llid, gwaedu, chwyddo a phresenoldeb plac a chalchgen.
Yn ystod apwyntiad gyda’r Hylenydd, caiff yr holl blac a staeniau ar wyneb y dant eu tynnu trwy ddigennu a sgleinio uwchsain ysgafn. Fe fyddwn yn rhoi cyngor cyson i chi ar hylendid deintyddol ac addysg am iechyd y geg. Mae hyn yn dangos y ffordd gywir o ddefnyddio brwsys dannedd, cymhorthion electronig, edau deintyddol a brwsys rhwng dannedd.

Dental Hygiene
Brushing

Dental Hygiene
Brushing

Dental Hygiene
Flossing

Dental Hygiene
Flossing

Dental Hygiene
Power Brushing

Dental Hygiene
Power Brushing

Dental Hygiene
Interdental Brushing

Dental Hygiene
Interdental Brushing