Syndrom TMJ
Mae Syndrom y Cyhyrau Cnoi a’r Cymalau sy’n Cysylltu’r Ên â’r Penglog (TMJ) yn anhwylder sy’n effeithio ar symudiad eich gên. Un o achosion mwyaf adnabyddus TMJ yw Crensian Dannedd, sydd ag amrywiaeth o achosion, yn amrywio o straen a gorbryder i gamgymheiriad. Yn aml iawn, ni fydd cleifion yn ymwybodol eu bod yn crensian eu dannedd oherwydd gall yr arfer ddigwydd wrth gysgu.
Gall symptomau TMJ gynnwys:
- Yr ên yn clicio neu’n popio
- Cyhyrau’r safn yn anystwyth neu’n boenus
- Cymal y safn yn cloi
- Poen yn y clustiau
- Cur pen
- Poen ger arlais y talcen
Gellir creu teclynnau pwrpasol i atal clensio dannedd er mwyn lleihau effeithiau niweidiol crensian dannedd neu glensio’r ên. Fel arall, gellir defnyddio pigiadau Botocs i lacio a rheoli tensiwn yn y cyhyrau yn y Cymal sy’n Cysylltu’r Ên â’r Penglog.