Mewnblannu Dannedd
Mae mewnblannu deintyddol yn dod yn driniaeth y gofynnir amdani yn rheolaidd i roi dannedd yn lle rhai a gollwyd. Bydd ein gweithwyr proffesiynol, sydd wedi eu hyfforddi i safon uchel iawn, yn esbonio ac yn dangos pam y byddai mewnblaniad deintyddol yn ateb parhaol a chyfforddus i chi.
Mae mewnblaniad deintyddol yn rhoi gwraidd gwneud yn lle gwraidd y dant naturiol. Mae’n cael ei angori mewn soced sydd wedi ei ddrilio i asgwrn y gen i gynnal coron neu bont neu i ddal dant gosod yn gadarn yn ei le. Mae modd rhoi mewnblaniad yn syth wedi tynnu dant neu ei golli o ganlyniad i anaf.
Mae’r mewnblaniadau wedi eu gwneud o ditaniwm, deunydd sy’n cael ei oddef yn dda gan esgyrn, ac sy’n asio’n rhwydd gyda meinwe’r asgwrn. Asgwrnintegreiddio yw’r enw ar y broses hon, ac y mae’n golygu, unwaith y bydd y gwaith adfer wedi ei wneud, y bydd y mewnblaniad coron, pont neu ddant gosod newydd yn sownd ac yn cael ei gynnal yn dda.
Mae llawer mantais i fewnblaniadau deintyddol yn hytrach na thriniaethau deintyddol eraill:
- Colli llai o’r asgwrn
- Gweithio’n well
- Gwell hylendid deintyddol
- Dim ymyrraeth a strwythur y dannedd iach cyfagos
- Edrych yn well
Efallai na fydd Mewnblaniadau Deintyddol yn addas i bob claf, ond mae dewisiadau eraill ar gael ym maes Prosthodonteg a wnaiff adfer defnydd a golwg eich dannedd yn llawn.