Orthodonteg
Mae orthodonteg yn gangen arbenigol o ddeintyddiaeth, a ddefnyddir yn y pen draw i sythu a/neu leihau bylchau yn eich dannedd. Rydym yn cynnig ystod gynhwysfawr o offer orthodontaidd newydd a thraddodiadol er mwyn rhoi’r driniaeth orau a mwyaf addas i’ch ceg ac ar gyfer eich anghenion personol.
Mae ein triniaethau yn cynnwys offer parhaol ac offer y gellir ei dynnu. Y rhain yw sythwyr metel, sythwyr serameg (sythwyr o liw’r dannedd), sythwyr tafodol (sythwyr cudd), sythwyr y mae modd eu tynnu, a sythwyr clir (sythwyr anweledig). Maent yn addas i gleifion i bob oed o blant i oedolion. Trwy gynnig yr amrywiaeth hon o driniaethau ac offer, gallwn roi dewis addas i chi. Bydd hyn yn caniatáu i ni gynllunio eich triniaeth yn ôl eich gofynion unigol.
Gallwn ddangos i chi sut y bydd orthodonteg yn newid golwg eich dannedd yn ddramatig. Byddwn yn esbonio hefyd sut y bydd o help i leihau perygl pydredd neu glefyd peridontol sy’n gysylltiedig â dannedd cam, gorlawn neu anwastad. Ymysg manteision tymor-hir triniaeth orthodontig mae gwell lleferydd a chnoi, dannedd iachach ac atal gwisgo cynamserol.
Mae dau gam fel arfer mewn triniaeth orthodontig. Yn gyntaf mae’r cyfnod gweithredol, sef cyfnod y driniaeth, a’r ail gam yw’r cyfnod cadw. Mae cadwyr sefydlog neu symudadwy yn cael eu defnyddio i ddal y dannedd yn eu safle newydd a sicrhau canlyniadau tymor-hir.
Sythwyr Symudadwy
Sythwyr symudadwy yw sythwyr cosmetig sydd yn aml yn cael eu galw yn sythwyr clir neu sythwyr anweledig. Maent yn hawdd eu tynnu er mwyn bwyta a’u glanhau, ond fel arall yn cael eu gwisgo’n gyson. Mae rhai mathau yn hollol glir ac anweledig, a rhai yn rhannol glir.
Sythwyr Sefydlog
Mae sythwyr sefydlog yn barhaol ac yn cael eu tynnu ar ddiwedd cyfnod y driniaeth. Mae bracedi yn cael eu gosod naill ai ar arwyneb blaen y dannedd – dyma a elwir yn sythwyr – neu y tu ôl i’r dannedd, a’r enw ar y rhain yw sythwyr tafodol neu sythwyr cudd.
Mae rhai sythwyr orthodontig sefydlog neu sythwyr tafodol yn canolbwyntio yn unig ar y chwech neu wyth dant uchaf ac isaf. Mae hyn yn rhoi amser triniaeth cyflymach, ac y mae’r canlyniadau yn rhyfeddol
Daw sythwyr a bracedi mewn amrywiaeth o wahanol ddeunyddiau a lliwiau addas ar eich cyfer chi.