Cfast
Cfast yw un o’r amrywiol driniaethau orthodontig sefydlog sydd gennym i’w gynnig yng Nghlinig Deintyddol y Gadeirlan.
Mae Cfast yn defnyddio bracedi orthodontig sefydlog clir a gwifrau nicel-titaniwm, sy’n peri bod y sythwyr bron yn anweledig. Mae’r gwifrau nicel-titaniwm yn rhoi pwysau ysgafn ar y bracedi i alinio’r dannedd heb achosi fawr ddim anghysur i’r claf.
Fe gymer y driniaeth lai o amser nac orthodonteg gonfensiynol am ei fod yn canolbwyntio ar y chwe dant blaen yn unig, sef y rhai sydd yn dylanwadu fwyaf ar y wên.
Mae’r driniaeth gosmetig lai ymyrrol hon yn bodloni anghenion y rhan fwyaf o’n cleifion o oedolion sydd eisiau triniaeth orthodontig.
Am fwy o wybodaeth am y sythwyr sefydlog a symudadwy sydd ar gynnig gennym, ewch at ein tudalen Orthodonteg neu cysylltwch â ni yn uniongyrchol.