Incognito
Sythwyr dannedd Incognito yw un o’r brandiau o sythwyr dannedd tafodol sydd gennym ni i’w cynnig.Maent yn addas i gleifion a hoffai wella golwg eu gwên yn gynnil.
Gosodir sythwyr dannedd Incognito ar arwyneb mewnol y daint, y tu mewn i’r geg ble maent yn hollol guddiedig.Caiff sythwyr dannedd Incognito eu gwneud yn arbennig i chi i sicrhau triniaeth drachywir, ac maent hefyd wedi’u gwneud o aloi aur i sicrhau na wnânt effeithio ar y sawl sydd ag alergedd nicel.
Yn ystod eich ymgynghoriad, fe wnawn eich hysbysu ai sythwyr dannedd Incognito fyddai’r driniaeth fwyaf addas i chi.
Am fwy o wybodaeth am y sythwyr sefydlog a symudadwy sydd ar gynnig gennym, ewch at ein tudalen Orthodonteg neu cysylltwch â ni yn uniongyrchol.