Inman Aligner

Aliniwr Inman yw un o’r triniaethau orthodontig symudadwy sydd gennym yn ein clinig. Offer lled-weledig ydyw fydd yn lleihau bylchau nad ydych eu heisiau, yn ail-linio ac yn sythu eich dannedd fel y mynnwch. Mae’r alinwyr yn canolbwyntio yn unig ar y chwe dant blaen sydd yn dylanwadu fwyaf ar y wên, ac y maent yn gyfyngedig o ran lefel y symud y gallant roi. Nid ydynt yn addas ar gyfer achosion lle mae’r dannedd yn orlawn iawn yn y geg.

Yn wahanol i offer clir, nid yw Aliniwr Inman yn hollol anweledig. Mae iddo fariau neu fandiau rwber lled-weledig ar draws blaen a chefn eich dannedd. Fodd bynnag, gan fod modd ei dynnu, gallwch ei wisgo i ffitio i mewn â’ch dull o fyw. Mae triniaeth gydag Aliniwr Inman yn aml yn gyflymach na sythwyr anweledig a dim ond un darn o offer sydd ei angen ar gyfer yr holl driniaeth orthodontig.

Am fwy o wybodaeth am y sythwyr sefydlog a symudadwy sydd ar gynnig gennym, ewch at ein tudalen  Orthodonteg  neu cysylltwch â ni yn uniongyrchol.

Inman Aligner

Inman Aligner