Dannedd Dodi Gorchuddio Telesgopig
Mae Dannedd Dodi Telesgopig yn ddannedd dodi gorchuddio y gellir eu tynnu sy’n gallu bod yn ddewis addas yn lle Mewnblaniadau Deintyddol neu Bont Ddeintyddol.Defnyddir hwy yn lle dannedd a gollwyd heb lawdriniaethau megis gosod mewnblaniadau, impio asgwrn neu impio deintgig.
Byddai dannedd dodi gorchuddio telesgopig yn addas dan yr amgylchiadau hyn:
- Nid yw Triniaeth Mewnblaniadau Deintyddol yn addas i chi
- Mae’r prognosis tymor hir am bont ddeintyddol neu ddannedd dodi traddodiadol yn amheus
- Mae eich dannedd mewn cyflwr gwael ond gellir eu gwella â thriniaeth
- Rydych chi’n ceisio dewis mwy cost effeithiol na mewnblaniadau
- Rydych chi’n ceisio dewisiadau triniaeth gwell at ddibenion defnydd, esmwythdra ac estheteg
Caiff dannedd dodi telesgopig eu dal yn eu lle gan o leiaf dau ddaint y mae’n rhaid eu gorchuddio â deunydd aur neu gerameg.Yna caiff y dannedd dodi gorchuddio eu creu yn fanwl gywir i sicrhau eu bod yn gorwedd yn dynn dros y dannedd sydd wedi’u gorchuddio.
Dyma fanteision tymor hir dannedd dodi gorchuddio telesgopig:
- Gwell defnydd o’r geg oherwydd maent yn gorwedd yn union dros eich dannedd naturiol
- Gwell estheteg heb unrhyw glasbiau
- Atal colli asgwrn
- Ni fydd colli dannedd yn y dyfodol yn effeithio ar ddannedd dodi telesgopig