Amdanom Ni
Ers ei sefydlu ym 1968, mae Clinig Deintyddol y Gadeirlan (‘Cathedral Dental Clinic’) yn bractis deintyddol teuluol arbennig a fforddiadwy yng Nghaerdydd. Rydym yn darparu’r safon uchaf mewn Deintyddiaeth Gyffredinol, Deintyddiaeth Gosmetig, Mewnblannu Dannedd and Orthodonteg. Rydym yn cynnig triniaeth dan gynlluniau preifat a’r GIG.
Yng Nghlinig Deintyddol y Gadeirlan, ein blaenoriaeth yw eich lles a’ch ewyllys da chi. Ein nod yw gwneud i chi deimlo’n gyfforddus a’ch bod yn cael croeso yn ein hawyrgylch dawel a phroffesiynol. Mae gofal dros gleifion yn bwysig iawn i ni ac y mae o’r pwys mwyaf eich bod yn cael y profiad deintyddol gorau a gewch erioed.
Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar atal, addysg am iechyd y geg, a meithrin perthynas agos gyda’n cleifion. Fe gymerwn bob cam i dawelu eich pryderon trwy eich cyflwyno i’n tîm, trafod eich anghenion a’ch tywys trwy eich triniaeth, wrth eich pwysau.
Rydym yn hybu awyrgylch gyfforddus ac ymlaciol, yn ogystal â meddu ar y cyfarpar a’r triniaethau diweddaraf. Fel hyn, gallwn roi’r gofal diweddaraf o’r radd flaenaf i’n holl gleifion er mwyn cael yr iechyd deintyddol gorau, a gwên ddymunol.
Mae ein gofal claf wedi ennill Gwobr Gwasanaeth Gorau i Gleifion a Chlinig Blaenllaw yng Nghymru
- Cawsom wobr am y gwasanaeth gorau i gleifion a gwobr gyfathrebu bedair blynedd yn olynol; ein cleifion sydd wedi sicrhau hyn i ni trwy arolwg cenedlaethol whatclinic.com.
- Mae rhwydwaith ddeintyddol Aviva wedi penodi Clinig Deintyddol y Gadeirlan fel eu clinig blaenllaw yng Nghymru.