Ein bwriad yw eich galluogi chi i ymlacio mewn awyrgylch digynnwrf a phroffesiynol.  Gofal y claf yw ein prif flaenoriaeth, ein nod yw darparu’r gofal gorau posib.  Gadewch i ni wybod os ydych chi’n ofidus am driniaeth ddeintyddol fel ein bod ni’n gallu eich tywys chi drwy bob cam o’r broses a’r driniaeth.  Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiwn neu drafod unrhyw ofid sydd gennych.