Croeso i dudalen gorfforaethol Clinig Deintyddol y Gadeirlan ar gyfer gweithwyr cyflogedig Cyngor Celfyddydau Cymru. Rydym ni’n cydweithio’n weithgar â’ch cwmni i sicrhau y caiff eich lles ei gynnal.

Mae Clinig Deintyddol y Gadeirlan yn glinig deintyddol dethol a rhagweithiol yng Nghaerdydd sy’n cynnig deintyddiaeth fodern ragorol, yn amrywio o ddeintyddiaeth gyffredinol a chosmetig i fewnblaniadau deintyddol a thriniaethau prosthodonteg ac orthodonteg.

Rydym ni’n cydweithio’n agos ag Cyngor Celfyddydau Cymru i ganiatáu iddynt gynnig yr adnodd buddiol hwn sy’n cyd-fynd â’r egwyddor o gynnal gweithlu iach a bodlon.

Trwy gyfrwng ein Hymgyrch Gorfforaethol ynghylch Iechyd y Geg, gallwn gynnig y canlynol i chi fel un o weithwyr cyflogedig Cyngor Celfyddydau Cymru:

  • Cofrestru am ddim yn syth*
  • Apwyntiadau brys am ddim pan fyddwch chi wedi cofrestru ac yn mynychu’n rheolaidd* – £45.00 fel arfer
  • Archwiliadau preifat rhatach* am £15.00 – £30.00 fel arfer
  • Triniaethau cyffredinol rhatach am brisiau tebyg i brisiau’r GIG*
  • Disgownt o 10% ar brisiau triniaethau Cosmetig penodol*
  • Disgownt o 5% ar brisiau Orthodonteg
  • Disgownt o 5% ar brisiau Prosthodonteg
  • Disgownt o 5% ar brisiau gwaith adfer Mewnblaniadau Deintyddol*
  • Talebau disgownt chwarterol*
  • Archebu ar-leinDS:Nodwch “Cyngor Celfyddydau Cymru” wrth gofrestru

I gynnig rhagor o gymorth i chi, byddwn ni hefyd yn cynnig y canlynol i chi pan fyddwch chi wedi cofrestru ac yn mynychu’n rheolaidd:

  • Buddion corfforaethol ar gyfer aelodau eich teulu agos*
  • Archwiliadau a thriniaethau am ddim i’ch plant hyd at 16 mlwydd oed*

Caiff yr ymgyrch ynghylch iechyd y geg ei ariannu’n llwyr gan ein clinig oherwydd rydym ni’n credu fod diffyg gwybodaeth ddiduedd a chynhwysfawr ynghylch deintyddiaeth y GIG a deintyddiaeth breifat, ac mae hynny’n effeithio ar iechyd y geg yn achos oedolion.

Gallwch bori trwy ein gwefan neu mae croeso i chi gysylltu ag aelod o’n tîm i gael gwybodaeth ac arweiniad.

Cofrestru Cyngor Celfyddydau Cymru

I gofrestru fel un o gleifion Clinig Deintyddol y Gadeirlan, gofyn am apwyntiad neu wneud ymholiad, llenwch y ffurflen ar-lein neu ffoniwch ni ar 029 2038 2671

* Gweithredir telerau ac amodau