Amlinellu’r Dannedd
Gelwir amlinellu’r dannedd hefyd yn ffeilio neu ail-ffurfio’r dannedd. Mae’n drefn syml a di-boen all gadw eich dannedd a newid eu gwedd yn ddramatig mewn ychydig funudau.
Mae triniaeth amlinellu’r dannedd yn defnyddio erfyn ffeilio a sgleinio i lyfnhau dannedd toredig neu anwastad. Bydd hyn yn atal unrhyw dorri pellach a achosir gan arwynebau brathu anwastad, a bydd hefyd yn gwella golwg gyffredinol eich dannedd.
Mae ffeilio dannedd yn gyffredin wedi triniaeth orthodontig gan y gall y dannedd fu gynt yn gam fod yn anghymesur unwaith iddynt gael eu sythu. O ffeilio’r dannedd, mae modd creu y patrwm gorau ar gyfer uchder a maint pob dant.