Gellir impio’r deintgig os bydd eich deintgig wedi crebachu gan achosi sensitifrwydd yn sgil amlygu gwraidd eich daint.

O safbwynt cosmetig, gellir defnyddio triniaeth impio’r deintgig i wella golwg eich dannedd pan fydd llinell eich deintgig wedi crebachu gan wneud i’ch dannedd edrych yn estynedig.

Gall crebachu’r deintgig gael ei achosi gan gelfydperiodontol, brwsio gormod (sgraffinio gan y brws dannedd), camgymheiriadneu grensian. Triniaeth impio’r deintgig yw’r ateb delfrydol i atal colli rhagor o feinwe a lleihau sensitifrwydd.

Bydd triniaeth impio’r deintgig yn atgyfnerthu llinell y deintgig ac yn arafu unrhyw grebachu ychwanegol a allai ddigwydd, ac felly bydd yn lleihau colli asgwrn ac felly’r perygl o golli dannedd yn y dyfodol.

Mae’r buddion tymor hir yn cynnwys:

  • Lleihau’r posibilrwydd o bydredd yng ngwreiddiau’r deintgig
  • Deintgig iachach
  • Gwella estheteg eich gwên