Invisalign
Mae Invisalign yn system orthodontig glir i gau bylchau a sythu dannedd cam. Mae’n ddewis symudadwy, clir a chosmetig yn lle sythwyr sefydlog traddodiadol, tebyg i Smile TRU.
Mae Invisalign yn defnyddio modelu tri-dimensiwn i gynhyrchu cyfres o alinwyr clir neu “sythwyr clir”. Mae llawer o gleifion yn cyfeirio atynt fel “sythwyr anweledig”. Mae’r alinwyr clir symudadwy yn cael eu gwneud yn unswydd a cheir rhai newydd bob 2 wythnos. Dros amser, maent yn symud eich dannedd i safle sy’n rhoi dannedd syth i chi, sy’n werth clamp o wên.
Am fwy o wybodaeth am y sythwyr sefydlog a symudadwy sydd ar gynnig gennym, ewch at ein tudalen Orthodonteg neu cysylltwch â ni yn uniongyrchol.