Sythwyr Serameg
Mae sythwyr serameg yn ddewis cosmetig yn lle’r sythwyr metel cyffredin. Maent wedi eu gwneud o fracedi a gwifrau o liw’r dannedd, ac felly’n anos eu gweld ar eich dannedd na sythwyr metel.
Mae gwifrau o liw’r dannedd yn cael eu gosod ar arwynebau blaen eich dannedd trwy fracedi serameg. Mae’r gwifrau hyn yn cael eu tynhau dros amser, gan wasgu’n ysgafn ar y dannedd sydd yn eu hannog i symud yn sythach. Tueddir i ddefnyddio sythwyr serameg yn fwy ar y dannedd blaen isaf na’r dannedd isaf.
Am fwy o wybodaeth am y sythwyr sefydlog a symudadwy sydd ar gynnig gennym, ewch at ein tudalen Orthodonteg neu cysylltwch â ni yn uniongyrchol.