Prosthodonteg
Mae Prosthodonteg yn gangen arbenigol o ddeintyddiaeth sy’n ailosod ac adfer ar ôl colli dannedd.Yn draddodiadol, dannedd gosod yw’r teclyn mwyaf cyffredin mewn orthodonteg, ond diolch i dechnoleg fodern ac arbenigedd ac ymchwil uwch yn y maes hwn, mae datblygiadau arloesol wedi digwydd yn cynnwys Dannedd Dodi Telesgopig neu Ddannedd Dodi Gorchuddio, neu Ddannedd Dodi Atodiad Trachywir.
Mae teclynnau prosthodonteg yn ddewis anymwthiol yn lle Mewnblaniadau Deintyddol a gellir eu gosod yn lle dannedd a gollwyd mewn llawer llai o amser.
Gall colli dannedd naturiol, naill ai trwy ddamwain neu fel rhan o’r broses heneiddio, fod yn drawmatig a gall leihau eich hyder.Trwy ddefnyddio teclynnau prosthodonteg y gellir eu tynnu, gallwn ni adfer y defnydd o’ch dannedd a’u golwg.