Dannedd Dodi Hyblyg
Mae Dannedd Dodi Hyblyg yn ddewis modern yn lle Dannedd Dodi Traddodiadol. Er eu bod yn dal i gymryd lle un neu ragor o ddannedd a gollwyd, maent wedi’u gwneud heb ddefnyddio metel na chlasbiau, felly maent yn llai anhyblyg, llai swmpus a fwy neu lai yn anweledig.
Mae’r deunyddiau a ddefnyddir mewn Dannedd Dodi Hyblyg yn ysgafn ac yn deneuach na’r rhai a ddefnyddir mewn dannedd dodi confensiynol, sy’n caniatáu iddynt fod yn hyblyg a mwy cyfforddus.Mae technegau modern hefyd yn caniatáu i Ddannedd Dodi Hyblyg fod yn esthetig iawn oherwydd gallant fod yr un lliw a’ch deintgig a’ch dannedd.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch y gwahanol fathau o Ddannedd Dodi a gynigir gennym ni, trowch at ein tudalen Prosthodonteg neu cysylltwch â ni yn uniongyrchol.