Atgyfeiriadau
Rydym ni’n glinig deintyddol modern sy’n darparu gofal a thriniaeth arbenigol i’n holl gleifion mewn amgylchedd pwyllog a phroffesiynol.
Rydym ni’n derbyn atgyfeiriadau ynghylch deintyddiaeth Gosmetig, Orthodonteg, Prosthodonteg, Mewnblaniadau Deintyddol a delweddau digidol.
Bydd ein clinigwyr arbenigol a hynod brofiadol yn sicrhau y caiff eich claf y triniaethau diweddaraf, a byddant hefyd yn eich diweddaru trwy gydol y driniaeth.
Byddwn yn datblygu ein perthnasoedd ar sail ymddiriedaeth ac ewyllys da.Felly, gallwch chi fod yn hyderus y caiff eich cleifion y gofal a’r sylw rhagorol mae arnynt eu hangen a chânt eu dychwelyd i’ch gofal chi pan ddaw’r driniaeth i ben.
I atgyfeirio eich claf, llenwch ein ffurflen atgyfeirio ar-lein neu ein PDF y gellir ei argraffu, ac fe wnawn ni gysylltu â chi cyn gynted ag y bo modd.
Hunan-atgyfeirio
Os hoffech chi driniaeth ddeintyddol sydd ddim ar gael yn eich Practis Deintyddol presennol, mae croeso i chi gysylltu â ni i gael ymgynghoriad, neu gofynnwch i’ch Deintydd lenwi’r ffurflen atgyfeirio ar-lein.